#

 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-766

Teitl y ddeiseb: Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol i gynnwys opsiwn fegan ym mhob ffreutur neu wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru lle y mae ganddi’r pŵer i wneud hynny. Mae Senedd Portiwgal wedi cymeradwyo opsiwn fegan gorfodol ym mhob ffreutur cyhoeddus (e.e. ysgolion, prifysgolion, carcharau, ysbytai) – sy’n gam enfawr ar gyfer arlwyo fegan i bawb. Mae dros 5 y cant o’r boblogaeth yn fegan, ac mae’r ganran yn cynyddu. Mae deiet fegan yn fwy iachus, mae’n arbed adnoddau ac mae’n amddiffyn y blaned ac, yn fwy na dim, nid oes creulondeb yn ei gylch. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw arnom i fwyta rhagor o fwydydd sy’n deillio o blanhigion. Mae bwydydd sy’n deillio o anifeiliaid yn gysylltiedig â chanser a chlefyd y galon.

 

Cefndir

Deiet fegan

Mae’r Gymdeithas Fegan yn diffiniofeganiaeth fel ffordd o fyw sy’n ceisio eithrio, cyn belled ag y bo modd ac yn ymarferol, pob math o ymelwa ar, a chreulondeb at anifeiliaid ar gyfer cael bwyd, dillad neu at unrhyw bwrpas arall. Goblygiad dietegol hyn yw bod feganiaid â deiet sy’n seiliedig ar blanhigion, a’u bod yn osgoi pob cynnyrch anifeiliaid, gan gynnwys cig, pysgod, pysgod cregyn, wyau, llaeth, a mêl.

Mae’r prif resymau a nodwyd dros fabwysiadu deiet fegan yn cynnwys pryder am les anifeiliaid, pryderon am effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd deietau heb fod yn fegan, a manteision iechyd canfyddedig deietau fegan.

Mae cyngor y GIG ar ddilyn deiet fegan yn datgan, gyda chynllunio a dealltwriaeth lawn o ystyr deiet iach a chytbwys, dylai deiet fegan allu darparu’r holl faetholion y mae eu hangen ar y corff, er y gallai atchwanegiadau fod yn angenrheidiol ar gyfer cael rhai maetholion, fel fitamin B12. Darperir cyngor penodol gan y GIG ar gyfer mamau beichiog a babanod a phlant hefyd. Mae Taflen Ffeithiau ar Ddeietau Llysieuol, a luniwyd gan Gymdeithas Ddeieteg Prydain, yn amlinellu rhai ffynonellau o faetholion sy’n ofynnol ar gyfer deiet iach sy’n addas ar gyfer llysieuwyr / feganiaid.

Feganiaeth yn y DU a Chymru

Mae’r deisebydd yn nodi bod 5 y cant o’r boblogaeth yn fegan. Nid yw’n glir, fodd bynnag, o ble y daeth y ffigur hwn. Canfu’r arolwg ‘Bwyd a Chi’ diweddaraf gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd bod llai nag 1 y cant o’r ymatebwyr yn dweud eu bod yn fegan. Mae’r ffigur o 1 y cant hwn yn debyg i ganfyddiadau ar draws y DU a oedd yn ganlyniad i Arolwg Deiet a Maeth Cenedlaethol a nodir ar wefan y GIG , ynghyd â chanlyniadau pôl Ipsos MORI 2016 o 9,933 o bobl dros 15 mlwydd oed yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’n ymddangos, fodd bynnag, bod nifer y feganiaid yn cynyddu, ar lefel y DU gyfan o leiaf. Roedd yr astudiaeth Ipsos MORI 2016 yn adrodd bod ffigur o 542,000 o bobl 15 mlwydd oed a hŷn (1.05 y cant o’r rhai dros 15 mlwydd oed) yn dilyn deiet fegan, sef cynnydd o 350 y cant ar y ffigur o 150,000 yn 2006.

Parhaodd deiseb debyg i hon am 6 mis ar wefan Senedd y DU, gan ddenu 19,012 o lofnodion erbyn iddi gau ar 3 Ebrill 2017. Roedd y ffigur hwn yn brin o’r 100,000 o lofnodion sydd eu hangen i ddeiseb gael ei hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd, ond yn ddigon i warantu ymateb gan Lywodraeth y DU, a ddechreuodd drwy ddweud:

Individual institutions are responsible for the nutrition of their members and being aware of health, religious, cultural and ethical choices: and doing all they can to facilitate that choice.

Aeth yr ymateb ymlaen i amlinellu’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â darparu bwyd mewn ysbytai, carchardai, ysgolion, a phrifysgolion, a daeth i gasgliad drwy ddweud bod y Llywodraeth yn cydnabod bod y mater o ddeiet yn gymhleth, a bod nifer o ffactorau dylanwadol sy’n gysylltiedig â deiet nad yw’r Llywodraeth yn ceisio eu tanseilio.

Deddfwriaeth Portiwgal

Cymeradwyodd Senedd Portiwgal gyfraith newydd ar 3 Mawrth 2017 a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob ffreutur gyhoeddus ddarparu dewis llysieuol llym (ac ystyr ‘llym’ yw nad yw’n ‘cynnwys dim cynnyrch anifeiliaid’, h.y. fegan). Roedd y cam hwn yn dilyn deiseb gan Gymdeithas Llysieuol Portiwgal (Associação Vegetariana Portuguesa) yn 2015 a ddenodd dros 15,000 o lofnodion ac a drafodwyd yn y Senedd yn 2016. Mae’r gyfraith hefyd yn cynnwys cymal sy’n caniatáu eithriad ar gyfer sefydliadau lle nad oes digon o alw am yr opsiwn fegan. Adroddodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llysieuol Portiwgal mai hon yw’r gyfraith gyntaf erioed ym Mhortiwgal sy’n sôn am lysieuaeth yn benodol.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Roedd y Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013 yn nodi’r gofynion ar gyfer bwyd a diod a ddarperir mewn ysgolion gan awdurdodau lleol neu ysgolion. Nid yw’r Rheoliadau hyn yn nodi unrhyw ofynion penodol o ran darparu dewisiadau fegan, er bod y canllawiau statudol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu rhai "cynghorion ymarferol" ar sicrhau bod disgyblion sy’n dilyn deiet llysieuol neu fegan yn cael maetholion digonol, fel sicrhau bod dewisiadau fegan ar wahân i laeth yn cael eu darparu. Dylid nodi hefyd nad yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys o dan rai amgylchiadau penodol, er enghraifft, pan fydd disgyblion neu’u rhieni yn dod â bwyd i mewn, neu pan fydd bwyd yn cael ei ddarparu fel rhan o unrhyw anghenion dietegol a ragnodir yn feddygol.

Lansiodd Llywodraeth Cymru y Safonau maeth ac arlwyo Cymru gyfan ar gyfer bwyd a hylif i gleifion preswyl mewn ysbytai ym mis Hydref 2011. Mae’r Safonau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddewis llysieuol fod ar gael ym mhob pryd bwyd, ond nid yw’n ei gwneud yn ofynnol bod opsiwn fegan yn cael ei ddarparu. Nodir ym Mhennod 7, ‘Deietau Arbennig a Phersonol’, y bydd y fwydlen ysbyty safonol a ddarperir yn darparu ar gyfer anghenion llysieuwyr sy’n bwyta caws, wyau, a llaeth, ond y bydd amrywiadau o’r deiet hwn yn ei gwneud yn ofynnol i gynllunio ar gyfer anghenion cleifion unigol.

 

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ystyriwyd deiseb ar Fwyd yn Ysbytai Cymru yn wreiddiol gan Bwyllgor Deisebau’r Pedwerydd Cynulliad, ac mae wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor presennol droeon (y tro diweddaraf oedd ar 17 Ionawr 2017). Er nad oedd yn ymwneud yn benodol ag opsiynau fegan, roedd y ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio safonau bwyd mewn ysbytai yng Nghymru. Amlygodd y deisebydd nifer o feysydd ble’r oedd yn teimlo bod angen gwelliannau, gan gynnwys lefel y ddarpariaeth bresennol ar gyfer cleifion ag anghenion deietegol.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad byr i Arlwyo a Maeth Cleifion tua diwedd 2016, fel cam dilynol i ymchwiliad blaenorol gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Pedwerydd Cynulliad. Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor ym mis Mawrth eleni, ac roedd yn cynnwys argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu cyfres o gwestiynau i’w cynnwys mewn dogfennaeth nyrsio safonol ac o fewn arolygon cleifion yn y dyfodol i "fonitro a yw byrddau iechyd yn cofnodi ac yn diwallu anghenion diwylliannol, anghenion crefyddol ac anghenion dietegol cleifion". Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn yn ei hymateb i’r Pwyllgor ym mis Mai 2017, ond wedyn ysgrifennodd Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Pwyllgor yn mynegi pryder nad oedd ymateb Llywodraeth Cymru yn gwarantu y byddai argymhelliad y Pwyllgor yn cael ei weithredu’n llawn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.